#

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Tachwedd 2018
 Petitions Committee | 13 November 2018
 
 
 ,P-05-846 Achub ein Hysbyty Tywysog Philip Llanelli 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-846

Teitl y ddeiseb: Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i achub ein hysbyty Tywysog Philip, Llanelli.   

 

Y cefndir

Bu pryderon ynghylch newidiadau arfaethedig i wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn 2013 ac yn fwy diweddar yn 2018.  

Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eu cynigion terfynol ar gyfer ail-gyflunio’r gwasanaeth iechyd yng ngorllewin Cymru. Yn dilyn yr ymgynghoriad ffurfiol, cododd Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda (y CIC) bryderon ynghylch y cynigion gyda'r Bwrdd Iechyd. Er i rai materion gael eu datrys, roedd rhai materion sy'n peri pryder i'r CIC yn parhau - sef, gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, a gwasanaethau newyddenedigol (yn benodol mewn perthynas ag Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg). Sefydlwyd Panel Craffu annibynnol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, Mark Drakeford, i archwilio'r holl ddogfennau perthnasol ac ystyried y materion.  

Ym mis Medi 2013, cyflwynodd y Panel ei adroddiad, a gefnogodd yn gryf yr achos dros adnewyddu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Tywysog Philip. Hefyd, cynigiodd y dylid defnyddio uned ymarferydd nyrsio argyfwng a gefnogir gan ymarferwyr cyffredinol fel y model ar gyfer gofal yn yr ysbyty yn y dyfodol. Yn ei ddatganiad ym mis Medi 2013, cadarnhaodd y Gweinidog ei fod wedi derbyn argymhelliad y Panel.

Felly, rwyf wedi penderfynu y caiff y math hwn o wasanaeth ei roi ar waith. Rwyf yn falch o adrodd bod y bwrdd iechyd a'r CIC eisoes wedi bod yn cydweithio ar fanylion y math hwn o fodel gwasanaeth ar gyfer Ysbyty'r Tywysog Philip.

Yn 2011-12, gwelodd adran frys yr ysbyty hwnnw 33,000 o gleifion, gyda 6,500 ohonynt yn cael eu hystyried yn achosion brys. Roedd angen trosglwyddo pedwar cant a dau ar hugain o'r rhain i ysbyty arall.  Cafodd y 80% arall o’r cleifion eu trin yn Ysbyty'r Tywysog Philip, ac mae’r penderfyniad yr wyf wedi'i wneud heddiw yn golygu mai dyna fydd y sefyllfa yn y dyfodol hefyd.

Mae gwefan Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn rhoi rhagor o fanylion am y gwaith i ddatblygu'r gwasanaeth gofal brys yn Ysbyty Tywysog Philip yn dilyn datganiad y Gweinidog.

Cynhaliwyd adolygiad barnwrol yn haf 2014 o'r gweithdrefnau a ddilynodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn cysylltiad â'r newidiadau hyn, ond cadarnhaodd barnwr yn yr Uchel Lys eu bod yn deg a chyfreithlon.

Mae newidiadau yn Ysbyty Tywysog Philip wedi bod yn destun nifer o ddeisebau a gyflwynwyd i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad; caewyd y rhain gan y Pwyllgor ym mis Ebrill 2017. O ran deiseb P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip, nododd y Pwyllgor Deisebau: 'The campaign group that submitted it has now disbanded. The petitioner states that the health board has improved its approach in relation to consultation and that current service provision at Prince Philip Hospital appears to be working satisfactorily.’

Cafwyd pryderon newydd ynghylch newidiadau posibl i wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip ar ôl i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gyhoeddi ei ymgynghoriad Trawsnewid ein gwasanaeth iechyd ym mis Ebrill 2018. O dan Gynnig A yn yr ymgynghoriad, byddai Ysbyty Tywysog Philip yn cael ei israddio'n ysbyty cymuned. Cyhoeddwyd canlyniad yr ymgynghoriad ar 26 Medi 2018. Ni chaiff Ysbyty Tywysog Philip ei droi'nl ysbyty cymuned; bydd yn cadw ei statws fel ysbyty cyffredinol lleol. Dyma rai o'r prif benderfyniadau:

§    buddsoddi mwy mewn integreiddio gofal cymdeithasol i iechyd a llesiant ar draws y saith ardal (gogledd a de Ceredigion, gogledd a de sir Benfro, Taf/Tywi, Aman/Gwendraeth a Llanelli);

§    mabwysiedir model ysbyty a fydd yn cynnwys:

-     gwneud achos busnes ar gyfer ysbyty newydd yng ngodre ardal Hywel Dda (rhywle rhwng Arberth a Sanclêr) i ddarparu gwasanaethau gofal brys a gofal brys arbenigol a gofal wedi'i gynllunio;

-     cadw a datblygu gwasanaethau ysbyty yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn unol â'r ffaith bod Cyd-bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Canolbarth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ysbyty o ran darparu gwasanaethau i boblogaethau Ceredigion, Powys a de Gwynedd;

-     cadw meddygaeth acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn dilyn moderneiddio diweddar o wasanaethau a ddatblygwyd gyda'r gymuned leol sy'n gwasanaethu ardal o boblogaeth niferus;

-     ailgyflunio'r defnydd o Ysbyty Glangwili (Caerfyrddin) ac Ysbyty Llwynhelyg (Hwlffordd) i gefnogi anghenion iechyd yn y gymuned, gan gynnwys gwelyau dros nos, gweithdrefnau achosion dydd, gwasanaethau cleifion allanol a galw i mewn, fel mân anafiadau a llawer mwy.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ei ymateb i'r Pwyllgor Deisebau (15 Hydref 2018), cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at gyhoeddiad diweddar gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda. Dywedodd:

Y cam nesaf fydd i’r clinigwyr a’r staff gydweithio gyda’r cyhoedd a sefydliadau eraill i dynnu’r manylion ychwanegol ynghyd er mwyn creu strategaeth iechyd 20 mlynedd ddrafft. Rhagwelir y bydd y strategaeth yn cael ei hystyried yng nghyfarfod cyhoeddus y Bwrdd ar 29 Tachwedd.

Ar hyn o bryd, mater i’r bwrdd iechyd yw penderfynu ar y cynigion, gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydledig. Mae’n bosib y bydd galw ar Weinidogion Cymru i benderfynu’n derfynol ar y cynlluniau, os nad oes modd dod i gytundeb yn lleol.